Allwch chi fod yn Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned?


      Ydych chi’n mwynhau sialens?
      Ydych chi’n ymateb yn dda o dan bwysau ac yn parhau’n ddigynnwrf mewn argyfwng?
      Ydych chi’n falch o’r gymuned ble’r ydych yn byw ac yn dymuno rhoi rhywbeth yn ôl?
      Oes gennych chi amser rhydd ar eich dwylo?
      Ydych chi’n barod i ddysgu sgiliau arbed bywyd hanfodol?
      Oes gennych chi drwydded yrru lawn, glân?
      Ydych chi’n gymharol iach?
      Ydych chi dros ddeunaw oed?

Os ydych yn cytuno â’r holl gwestiynau, yna chi yw’r person rydym yn chwilio amdano i ymuno â chynlluniau a sefydlwyd eisoes neu i ddatblygu tîm newydd.

 

Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn ymuno â thîm?


Bydd rhwydwaith o staff cefnogi Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) yn hyfforddi gwirfoddolwyr gyda sgiliau arbed bywyd a sut i ddefnyddio’r offer sydd ar gael i ymatebwyr cyntaf.

Cyn dechrau hyfforddi, byddwch angen archwiliad CRB, archwiliad iechyd galwedigaethol a cherdyn adnabod. Pan fyddwch yn derbyn tystysgrif cydymffurfiaeth, hysbysir y canolfannau rheoli am y timau newydd a byddant yn gadael i’r gwirfoddolwr ar alwad wybod pan fydd angen cymorth.

Mae WAST yn annog pob tîm i fod yn hunangynhaliol, gan gynnwys penodi cydlynydd tîm gwirfoddol i helpu i reoli pob cynllun lleol yn annibynnol.

Parhau â diddordeb?


Yna, cwblhewch y ffurflen gyswllt ar lein neu lawr lwythwch y ffurflen gais a chysylltir â chi gan y grwp ymatebwyr lleol neu Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru pan gynhelir y sesiwn hyfforddi nesaf.