Croeso i wefan Ymatebwyr Cyntaf Bwrdeistref Caerffili.
To view this page in English click here
Yma byddwch yn dod o hyd i ragor o wybodaeth am y grwpiau ymatebwyr a’r ardaloedd ym Mwrdeistref Caerffili.
Pwy yw’r Ymatebwyr Cyntaf?
Gwirfoddolwyr yw Ymatebwyr Cyntaf Bwrdeistref Caerffili. Rydym yn gwirfoddoli yn ein hamser ein hunain i fynychu galwadau 999 perthnasol a chynnig gofal brys i bobl yn y gymuned.
Nid ydym yn disodli’r gwasanaeth ambiwlans, ond rydym yn gyswllt hanfodol yn y gadwyn oroesi. Rydym yn cael ein hyfforddi a’n cefnogi gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru i weinyddu sgiliau cymorth cyntaf sylfaenol, therapi ocsigen, adferiad cardiopwlmonaidd (CPR) a defnyddio deffibrilydd.
Sut ydyn ni’n ymateb?
Pan fydd rhywun yn deialu 999, hysbysir yr Ymatebwyr Cyntaf gan ganolfan reoli Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac rydym yn cael ein hanfon i fathau arbennig o alwadau'r un pryd ag ambiwlans fel y gallwn ddarparu gofal hanfodol nes bydd y Cerbyd Ymateb Cyflym neu’r ambiwlans yn cyrraedd.
Mae yna bedwar grwp o ymatebwyr ym Mwrdeistref Caerffili ar hyn o bryd. Cliciwch ar grwp ymateb ar ddechrau’r dudalen neu’r map i ymweld â gwefan y grwp o ymatebwyr yn eich ardal chi.